Cardiff University’s mission is to co-create and share new knowledge to deliver a better world for future generations. Our strategy, ‘Our future, together’, builds on our history, values, strengths, resources and networks to deliver on our ambitious plans and priorities. Our vision is to be a world-leading, research-excellent, and educationally outstanding global university with a transformative social, cultural and economic impact on Cardiff, Wales, the UK and the world.
In this exciting strategic environment, we are seeking to appoint a Head of the School of Law and Politics to lead the School and to deliver the new strategy in a refreshed academic context.
The School has a reputation for internationally excellent scholarship, research and impact. Our research environment is defined by interdisciplinarity, creating unique opportunities for staff and students to collaborate, and we are committed to providing a distinctive and outstanding learning environment for our students to explore the dynamic and fast-paced fields of Law, Politics, and International Relations.
Reporting to the Pro Vice-Chancellor and Head of the College of Arts, Humanities and Social Sciences, the Head of School will build on firm foundations and oversee the delivery of excellent education and student experience, foster scholarship and research that matters globally, and inspire an inclusive, positively bilingual and anti-racist culture and cynefin, a Welsh term for a trusted, known habitat in which all belong.
The successful candidate will bring an excellent reputation in scholarship, research and teaching but also be able to evidence leadership and management credentials with an inclusive, collaborative approach, and able to build positive relationships internally and externally. They will be a good communicator who can inspire, lead and motivate colleagues across the School. Crucially, they will be able to lead change and deliver against the strategic priorities of the College of Arts, Humanities and Social Sciences and the wider University. A demonstrable commitment to nurturing an inclusive environment for students and staff is essential, alongside a personal commitment to the core principles of opportunity, openness, transparency and respect for all.
For further details, including a job description, person specification and information on how to apply, please visit https://plusportal.perrettlaver.com/ quoting reference 7919.
For informal conversations, please reach out to Harvir Bain at Harvir.Bains@perrettlaver.com.
The closing date for applications is 23:59 GMT on Sunday, 20th July
Location: Cardiff
Salary: Cardiff University will offer an attractive salary, commensurate with experience, for a highly talented postholder in this role.
Cardiff offers 37 days per annum of annual leave and a USS pension. Relocation expenses (up to a maximum of £8,000) will be available for candidates moving to Cardiff.
The role is full-time for up to 5 years (with the possibility of a further term of 3 years). The role carries a non-pensionable allowance. The role as Head of School is attached to an underlying open-ended academic contract.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Protecting your personal data is of the utmost importance to Perrett Laver and we take this responsibility very seriously. Any information obtained by our trading divisions is held and processed in accordance with the relevant data protection legislation. The data you provide us with is securely stored on our computerised database and transferred to our clients for the purposes of presenting you as a candidate and/or considering your suitability for a role you have registered interest in.
As defined under the General Data Protection Regulation (GDPR) Perrett Laver is a Data Controller and a Data Processor, and our legal basis for processing your personal data is ‘Legitimate Interests’. You have the right to object to us processing your data in this way. For more information about this, your rights, and our approach to Data Protection and Privacy, please visit our website http://www.perrettlaver.com/information/privacy.
Please visit the following link in order to find more information about the use of personal information provided by candidates to the university: https://www.cardiff.ac.uk/public-information/policies-and-procedures/data-protection
Cenhadaeth Prifysgol Caerdydd yw i greu a rhannu gwybodaeth newydd ar y cyd, er mwyn cael byd gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae ein strategaeth, ‘Ein dyfodol, gyda’n gilydd’, yn defnyddio ein hanes, ein gwerthoedd, ein cryfderau, ein hadnoddau a’n rhwydweithiau i gyflawni ein cynlluniau a’n blaenoriaethau uchelgeisiol. Ein gweledigaeth yw bod yn brifysgol fyd-eang flaenllaw, ardderchog o ran ymchwil, a rhagorol o ran addysg, yn cael effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd drawsnewidiol ar yng Nghaerdydd, Cymru, y DU a'r byd.
Yn yr amgylchedd strategol cyffrous hwn, rydym am benodi pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth i arwain yr Ysgol a chyflwyno'r strategaeth newydd mewn cyd-destun academaidd wedi ei adnewyddu.
Mae gan yr Ysgol enw da am ysgoloriaeth, ymchwil, a dylanwad rhagorol ar raddfa ryngwladol. Diffinir ein hamgylchedd ymchwil gan ryngddisgyblaeth, gan greu cyfleoedd unigryw i aelodau o staff a myfyrwyr gydweithio, ac rydym yn ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu nodweddiadol ac eithriadol i'n myfyrwyr i archwilio meysydd cyflym a deinamig y Gyfraith, Gwleidyddiaeth, a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Gan adrodd i'r Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, bydd Pennaeth newydd yr Ysgol yn adeiladu ar sylfeini academaidd cryf ac yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu addysg ragorol a phrofiad myfyrwyr, gan feithrin ysgoloriaeth ac ymchwil flaenllaw sy'n bwysig yn fyd-eang, ac yn ysbrydoli diwylliant a chynefin cynhwysol, gadarnhaol ddwyieithog a gwrth-hiliol lle mae pawb yn perthyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod ag enw da rhagorol mewn ysgolheictod, ymchwil ac addysgu ond bydd hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o gymwysterau arweinyddiaeth a rheolaeth gyda dull cynhwysol a chydweithredol, a’r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol yn fewnol ac yn allanol. Byddant yn gyfathrebwyr rhagorol sy'n gallu ysbrydoli, arwain a chymell cydweithwyr ar draws yr Ysgol. Yn allweddol, byddant yn gallu arwain newid a chyflawni yn erbyn blaenoriaethau strategol Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol a'r Brifysgol ehangach. Mae ymrwymiad amlwg i feithrin amgylchedd cynhwysol i fyfyrwyr a staff yn hanfodol, ochr yn ochr ag ymrwymiad personol i egwyddorion craidd cyfle, didwylledd, tryloywder a pharch at bawb.
Am ragor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth am sut i wneud cais, ewch i https://plusportal.perrettlaver.com/gan ddyfynnu'r cyfeirnod 7919.
Ar gyfer sgyrsiau anffurfiol, cysylltwch â Harvir Bain ar Harvir.Bains@perrettlaver.com.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 BST ddydd Sul 20 o Orffennaf.
Lleoliad: Caerdydd
Cyflog: Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyflog deniadol, yn gymesur â phrofiad, i ddeiliad post talentog iawn yn y rôl hon. Mae Caerdydd yn cynnig 37 diwrnod y flwyddyn o wyliau blynyddol, a phensiwn USS. Bydd treuliau adleoli (hyd at uchafswm o £8,000) ar gael i ymgeiswyr sy'n symud i Gaerdydd.
Mae'r rôl yn llawn amser am hyd at 5 mlynedd (gyda'r posibilrwydd o dymor pellach o 3 blynedd). Mae'r rôl fel Pennaeth yr Ysgol yn gysylltiedig â chontract academaidd barhaol.
Mae Prifysgol Caerdydd am gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywioldeb, gan gynnig awyrgylch cynhwysol i’w gweithwyr. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu drefniadau rhannu swydd.
Mae diogelu eich data personol yn hollbwysig i Perrett Laver, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Mae unrhyw wybodaeth sy’n dod i law ein his-adrannau masnachu’n cael ei chadw a'i phrosesu’n unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol. Mae’r data y byddwch yn ei roi inni yn cael ei gadw’n ddiogel ar ein cronfa ddata gyfrifiadurol a’i drosglwyddo i'n cleientiaid er mwyn eich cyflwyno’n ymgeisydd a/neu ystyried eich addasrwydd ar gyfer y swydd yr ydych wedi mynegi diddordeb ynddi.
Fel y'i diffinnir yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae Perrett Laver yn Rheolwr Data ac yn Brosesydd Data, a ‘Buddiannau Dilys’ yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu ein bod yn prosesu eich data fel hyn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, eich hawliau a sut rydym yn sicrhau Diogelwch a Phreifatrwydd Data, ewch i’n gwefan http://www.perrettlaver.com/information/privacy.
Cliciwch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth am sut y defnyddir gwybodaeth bersonol ymgeiswyr i'r Brifysgol: https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/data-protection